Event Info
Lleoliad: Stiwdio Emily Davies, Adeilad Parry Williams, Prifysgol Aberystwyth.
Tocynnau am ddim
Mae American Primitive yn berfformiad dramatwrgaidd a arweinir gan fyfyrwyr ATFfTh. Mae'n anrhydeddu casgliad Mary Oliver a enillodd wobr Pulitzer, ac yn delio â themau Americanaidd, natur a'r amgylchedd.
Trwy synau priddlyd, arogleuon gwyrdd, goleuo dyfrllyd, a gwaith grŵp corfforol, mae'r ensemble hwn yn ceisio ailddarganfod yr ystyr y tu ôl i farddoniaeth Oliver. Mae'r darn yn wahoddiad i'r gynulleidfa ddadorchuddio gwreiddiau'r dopograffeg Americanaidd.
Mewn byd sydd mor hawdd ac mor aml yn anghofio edmygu'r gwerth mewn bodoli, mae'r perfformiad hwn yn ddathliad o'r profiad dynol. Mae'n ein hatgoffa ein bod yn bodoli, ac rydym yn filain, dirlawn, moethus, a blasus!