Event Info
Canllaw Oedran: 18+ oed
Rhediad: 60 munud/toriad 20 munud/60 munud
Noson o Gabare Bwrlésg
Noson Fendigedig o Glamor, Chwerthin a Hwyl.
Dewch yn llu! ... mae sioe bwrlésg hynaf y DU yn ôl yn ar daith gyda thro newydd cyffrous! Yn cyflwyno Noson o Gabare Bwrlésg - dathliad disglair o gabare, bwrlésg, ac adloniant o'r safon uchaf.
Mae'r sioe amrywiaeth eithaf hon yn cyfuno cabare steilus, comedi, cerddoriaeth a bwrlésg i greu noson ysblennydd o ddisgleirdeb a glamor. Yn nodweddu sioeferched gloywon, artistiaid cabare anhygoel, a sêr y llwyfan a'r sgrîn, mae hon yn noson o soffistigedigrwydd a pherfformiadau syfrdanol.
Gallwch ddisgwyl hwyl, plu, a gwisgoedd gwych wrth i ni arddangos y detholiad gorau o artistiaid arbenigol, digrifwyr, a sioeferched siampên. Gyda'i chymysgedd o swyn cabare ac atyniad bwrlésg, mae'r sioe syfrdanol hon yn addo profiad unigryw hudolus sy'n ailddiffinio amrywiaeth ar gyfer yr 21ain ganrif.
Mae Bwrlésg wedi swyno cynulleidfaoedd ers canrifoedd, ac mae’r sioe hon yn cyflwyno’r gorau oll ym maes bwrlésg cyfoes ac artistwaith cabare. Disgwyliwch yr annisgwyl gyda digonedd o ddisgleirdeb, glamor, ac eiliadau bythgofiadwy. Mae’n adeg coctels a chabare - mae noson i’w chofio yn aros amdanoch!
Tocynnau ar werth ‘nawr. Peidiwch â methu’r wledd!
Canllawiau Cynnwys: themau oedolion, goleuadau yn fflachio
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.