Event Info
Dyma André Rieu yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed!
Mae Brenin y Walts yn eich gwahodd i barti cwch yng nghwmni ef a'i gerddorfa Johann Strauss wych wrth iddynt hwylio trwy ei dref enedigol Maastricht. Mae’r rhaglen sinema newydd sbon hon yn deyrnged i freuddwyd plentyndod André o ffurfio ei gerddorfa ei hun un dydd a theithio’r byd. Nodweddir detholiad o hoff berfformiadau byd-eang a mwyaf trawiadol André, ynghyd â rhai o’r momentau gorau y mae’r Maestro a’i Gerddorfa Johann Strauss wedi’u rhannu yn ystod eu degawdau lawer gyda'i gilydd. Nid yw’r rhan fwyaf o’r cyngherddau sy’n cael eu cynnwys wedi’u dangos ar y sgrîn fawr erioed o’r blaen, felly ymunwch ag ef i ddathlu ei benblwydd arbennig mewn steil!
128 munud