Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 20 Maw
·
Sinema

Event Info

Uchino Seiyo, Siapan 2024, 120 munud, is-deitlau Comedi chwareus hwyliog oddi wrth gyfarwyddwr One Cut of the Dead. Mae Jiro (Uchino Seiyo) yn weithiwr sydêt mewn swyddfa dreth sy'n dioddef sgam clyfar gan y twyllwr Makoto (Okada Masaki), gan golli ffortiwn. Wrth wynebu'r twyllwr, mae hwnnw’n cyflwyno cynllun iddo: os gall Jiro ei helpu i dwyllo teicŵn cyfrwys anonest sydd wedi bod yn osgoi biliynau mewn trethi (ac y mae swyddfa Jiro wedi bod yn ceisio'i ddal, yn aflwyddiannus), yna bydd e’n cael ei arian yn ôl. Er gwaethaf ei amheuon fel gwas cyhoeddus gonest, mae'n cytuno, a gyda'i gilydd maent yn hel at ei gilydd tîm o fisffitiaid lliwgar i lunio cynllun beiddgar i adennill y ffortiwn …
Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 20 Mawrth, 2026
19:45