Event Info
Cyfyngiad Oedran: 6 - 18 mis
Trefn Amseri: 45 munud (Perfformiad 20-25 munud / 20 munud i aros i chwarae)
Theatr Iolo yn cyflwyno
Baby, Bird & Bee | Babi, Aderyna’r Wenynen
Crëwyd gan Sarah Argent a Kevin Lewis
Dewch i ymlacio gyda’ch babi tra bod y garddwr yn brysur wrth ei waith yn plannu hadau ac yn dyfrio’r ardd brydferth. Yn fuan bydd aderyn, gwenynen ac wrth gwrs y babanod yn gwmni hyfryd i’r garddwr hapus. Gyda’ch gilydd byddwch yn darganfod golygfeydd a synau’r ardd a bydd eich rhai bychain wrth eu boddau!
Ar ddiwedd y sioe bydd cyfle i chi a’ch babi aros i chwarae gyda gwrthrychau sydd wedi’u dewis yn arbennig.Mae Sarah Argent a Kevin Lewis yn wneuthurwyr theatr arobryn sydd wedi creu nifer o sioeau hudolus ar gyfer babanod. Mae ganddynt ddawn arbennig o ddal sylw ac adlonni babanod a phlant ifanc.
Perfformir Baby, Bird & Bee yn Saesneg a pherfformir Babi, Aderyn a’r Wenynen yn Gymraeg ARCHEBWCH YMA.
Os ydych chi’n dysgu Cymraeg neu’n awyddus i ddysgu ambell i air Cymraeg newydd gyda’ch babi/babanod mae Babi, Aderyn a’r Wenynen yn ffordd berffaith o gyflwyno’r iaith i rai bychain.
Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau os hoffech archebu tocyn i oedolyn ychwanegol, babi ychwanegol (e.e.. efeilliaid) neu babi sy'n hyn na 18 mis.
Iaith y Perfformiad: Saesneg
Gwybodaeth am y perfformiad: Byddwch yn eistedd ar carped ar y llawr, gyda rhai cadeiriau ar gael os nad ydych yn gallu eistedd ar y llawr.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.