Event Info
Canllaw Oedran: 7+ oed
Rhediad: 40 munud/toriad 20 munud/40munud
Ballet Cymru yn Cyflwyno
GISELLEY cwmni arobryn ac arloesol, Ballet Cymru, yn cyflwyno siwrnai fythgofiadwy yn llawn angerdd, brad, a maddeuant.
Mae dehongliad newydd sbon o'r ballet llawn ysbrydion hwn yn adrodd stori drasig, ramantus merch ifanc o Gymru o’r enw Giselle, sy’n syrthio mewn cariad ond yn marw wedi i'w chalon dorri.
Yn cynnwys sgôr wreiddiol, swynol-glasurol Adolphe Adam, coreograffi arloesol gan Darius James OBE ac Amy Doughty, gwisgoedd nodedig o'r radd flaenaf a thafluniadau fideo ymdrochol.
Peidiwch â cholli'r cwmni rhagorol ac arloesol hwn sy'n cynnwys ensemble cwbl arbennig ac amrywiol o ddawnswyr gwych. .
Gwybodaeth Mynediad: Bydd Sain Ddisgrifiad wedi'i recordio ymlaen llaw yn y Gymraeg a'r Saesneg ar gael ar gyfer y perfformiad hwn, trwy gorsaf glust, gofynwch wrth archebu tocynnau.
Canllawiau Cynnwys: Mwg yn rhan o berffprmiad. Mae'r bale yn dragedï o ramant gydag elfennau o gariad, colled a marwolaeth. Hefyd ymddangosiadau ysbryd (nid yn ofnus) gydag awyrgylch rhyfedd ar y llwyfan.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.