Event Info
Paratowch
ar gyfer y profiad roc eithaf wrth i Bat Out of Hell ffrwydro ymlaen i’r sgrîn
fawr adeg Calan Gaeaf eleni! Bydd cast cynhyrchiad y West End yn dod ag
anthemau eiconig Jim Steinman a Meat Loaf yn fyw, gan gynnwys I’d Do Anything For Love (But I Won’t Do
That), Paradise By The Dashboard Light, Two Out of Three Ain’t Bad, Dead Ringer
For Love, ac, wrth gwrs, Bat Out of
Hell. Yn sioe wych a fydd yn eich gadael yn fyr o wynt, mae’r profiad unigryw
hwn, gyda band byw 8-darn pwerus ar y llwyfan, yn cyflwyno cynhyrchiad newydd
gyda phlatfformau aml-lefel helaeth i’ch cludo o ystafell wely Raven i fyd
tanddaearol y Lost mewn gwledd weledol sy’n gwthio ffiniau theatr fyw. 160
munud gan gynnwys egwyl.
Dechrau ar amser – dim hysbysebion