Event Info
Yn y Stiwdio 2D gyda’r tiwtor Ruth Packham. Ysbrydolir gan themâu cynaliadwyedd, newid hinsawdd, natur a chadwraeth.
CRIW CELF CEREDIGION - 21.07.25 - 25.07.2025
Bydd ein rhaglenni Cynradd ac Uwchradd yn rhedeg yn ystod wythnos gyntaf gwyliau Haf yr ysgol - o Ddydd Llun 21ain tan Dydd Gwener 25ain Gorffennaf. Gwahoddir ymgeiswyr o Flwyddyn 4 - 13 sy’n dangos diddordeb brwd yn y celfyddydau gweledol. Mae rhaglen y Criw Celf yn cynnwys gweithdai gydag artistiaid proffesiynol, ymweliadau â stiwdios artistiaid ac arddangosfeydd eraill, a chyfle i arddangos eich gwaith ac adeiladu eich portffolio celf. Cynhelir y rhan fwyaf o’r gweithgareddau yn ardal Aberystwyth, a darperir cludiant ar gyfer ymweliadau â lleoliadau eraill.
Mae ffi o £65 yn daladwy sy’n cynnwys costau’r holl weithgareddau, deunyddiau ac ymweliadau.
Mae lleoedd am ddim ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. ‘Rydym yn annog ceisiadau oddi wrth bobl ifanc o bob cefndir ac ‘rydym yn brosiect cyfle cyfartal.
A oes gennych ddiddordeb? Cysylltwch â Laura: lao8@aber.ac.uk 01970 62 28 88