Event Info
David Lynch, UDA 1986, 121 munud
Yn un o ffilmiau mwyaf clodwiw’r diweddar gyfarwyddwr, mae Blue Velvet yn gampwaith go iawn.Y tu ôl i ffensys gwynion ac ymddangosiad perffaith swbwrbia Americanaidd, mae ‘na rywbeth cas yn pydru. Mae Kyle MacLachlan yn serennu fel bachgen diniwed yn ei arddegau sy’n ymchwilio i drosedd bosibl ac yn cael ei dynnu i mewn i fyd tywyll o drais sy’n ymwneud â chantores clwb nos (Isabella Rossellini) a’r seicopath didostur Frank Booth (Dennis Hopper). Yn cael ei sgrinio mewn adferiad 4K.
18: Mae'r ffilm hon wedi cael ei chofrestru "18". Mae hynny'n golygu ei fod yn anaddas i unrhyw un sy'n iau na hynny. Mae'n drosedd caniatáu i unrhyw ei weld o dan yr oedran hwnnw, felly os nad ydych chi'n edrych yn ddigon hen, bydd angen gwireddiad oedran priodol arnoch i fynd i mewn. Diolch yn fawr a mwynhewch y ffilm.