Event Info
Canllaw Oedran: 14+ oed
Rhediad: 70 munud dim toriad
Y dydd presenol. Mae Jimmy Vandenburg, cyn-weithiwr ffatri Ford, yn gweithio ar ei ben ei hun yn ei garej yn gwasanaethu ceir clasurol Americanaidd ei ieuenctid. Ef yw gwrtharwr anthem Bruce Springsteen, ‘born down in a dead man’s town’, sy’n ceisio goroesi mewn anialdir economaidd y gwregys rhwd.
Yn gyn-filwr rhyfel Fietnam arwisgedig, mae Jimmy yn teimlo bod ei wasanaeth dros ei wlad wedi’i anwybyddu ar ôl iddo ddod adref, felly mae galwad Trump i ‘Wneud America’n Wych Eto’ yn apelio ato yn sgil ei siom a’i ddadrithiad. Ond mae ei wleidyddiaeth newydd yn dod rhyngddo ef a'i wraig. Yna mae ymweliad ar hap gan fab cyn-gymrawd morol a laddwyd yn y rhyfel yn gwneud iddo amau ei argyhoeddiadau a wynebu ei drawma mewn cymodiad emosiynol dwys.
Mae'r ddrama un-dyn glodwiw, deimladwy, ac yn aml ddoniol hon, yn herio'n ddewr rhagdybiaethau ynglyn â’r hyn sy'n gyrru gwleidyddiaeth boblogaidd ac yn dangos sut y gall hudo'r dadrithiedig a'r siomedig.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol yng Nghaeredin a Llundain mae’r ddrama afaelgar hon yn twrio’r DU.
Canllawiau Cynnwys: 14+ Desgrifiad o farwolaeth dreisgar mewn rhyfel. Rhegi Ysgafn.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.