Event Info
Jean-Luc Godard, Ffrainc 1959, 90 munud, is-deitlau
Bu fffilm gyntaf wefreiddiol Jean-Luc Godard yn chwalu ac yn ail-ysgrifennu rheolau sinema mewn steil. Gan ddilyn troseddwr di-nod ar ffo ym Mharis a'i berthynas gymhleth gyda newyddiadurwraig Americanaidd uchelgeisiol, mae hon yn ffilm sy'n llawn gwrthryfel ieuenctid, ac yn wahanol i unrhyw beth a ddaeth o'i blaen. Yn garreg filltir o'r Don Newydd Ffrengig, wedi'i hailfeistroli bellach mewn 4K, mae hwn yn brofiad sinema hanfodol i unrhyw un sy'n gwerthfawrogi gwneud ffilmiau beiddgar ac arloesol.
15: Mae'r ffilm hon wedi cael ei chofrestru "15". Mae hynny'n golygu ei fod yn anaddas i unrhyw un sy'n iau na hynny. Mae'n drosedd caniatáu i unrhyw ei weld o dan yr oedran hwnnw, felly os nad ydych chi'n edrych yn ddigon hen, bydd angen gwireddiad oedran priodol arnoch i fynd i mewn. Diolch yn fawr a mwynhewch y ffilm.