Event Info
Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG ( Caniateir alcohol )
PARTH MELYN ZONE: Canllaw Oedran: 7+ oed ( Ni chaniateir alcohol )*
Rhediad: 55 munud/toriad 20 munud/55 munud
Wedi hir ddisgwyl, mae seren BBC Radio Wales, Bronwen Lewis, yn dychwelyd i’r llwyfan gyda’i thaith ‘Big Night In’.
Mae’r aml-offerynwraig sydd mor boblogaidd ar Tik-Tok yn edrych ymlaen yn fawr at rannu ei chaneuon a straeon newydd gyda chi, a berfformir ochr yn ochr â ffefrynnau o’i halbymau blaenorol a’i fersiynau unigryw hi o glasuron traddodiadol Cymreig.
Yn ei sioeau byw mwyaf uchelgeisiol hyd yma, bydd Bronwen, gyda’i chynhesrwydd naturiol a’i band byw anhygoel yn mynd â chi ar daith fythgofiadwy o wahanol ddulliau cerddorol ac emosiynau.
Mae’r gantores-gyfansoddwraig Gymreig sydd ag arddull sy’n eistedd rhywle rhwng Canu Gwlad, Pop, Gwerin a’r Felan, yn hynod falch o’i dwyieithrwydd a derbyniodd glod rhyngwladol pan gymerodd ran yn The Voice, gan wneud argraff fawr ar Tom Jones. Yn sgil y profiad hwnnw bydd Bronwen yn eistedd cyn bo hir ar un o'r cadeiriau coch enwog fel beirniad ar Y Llais, y fersiwn Gymraeg o The Voice.
Peidiwch â methu allan ar y cyfle prin hwn, archebwch ‘nawr a byddwch yn rhan o Big Night In Bronwen!
Neges oddi wrth Bronwen:
‘Wel helo cariad, ‘Rwyf wrth fy modd i fod ar daith eto a gweld eich wynebau hyfryd. ‘Rwyf wedi bod yn brysur yn ysgrifennu caneuon newydd, cyfieithiadau ac yn hel atgofion am straeon doniol o’m plentyndod a’m gyrfa - ac ni allaf aros i'w rhannu gyda chi!’
Ta ta fam nawr!
Bron x’
*Parth Melyn Zone : Termau ac Amodau i'r Parth Melyn Zone YMA
Bydd y Parth Melyn hwn yn berthnasol ar gyfer y perfformiad hwn. Am hyd y perfformiad, bydd Balconi’r Gorllewin (y gellir ei gyrraedd trwy Ddrws F) yn barth di-alcohol. Mae hyn yn golygu y gall plant 7-11 oed fwynhau'r perfformiad, yng nghwmni’r oedolion sy'n dod gyda nhw, mewn amgylchedd sy'n addas i deuluoedd. Sylwch y caniateir alcohol i rannau eraill o'r awditoriwm, gyda chyfyngiad oedran o 12+ yn berthnasol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â’r Parth Melyn, cysylltwch â'r tîm.
Iaith y perfformiad: Cymraeg a Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.