Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 21 Maw
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: 6+ oed 

Rhediad: 60 munud / toriad 20 munud / 60 munud

Wedi hir ddisgwyl, mae seren BBC Radio Wales, Bronwen Lewis, yn dychwelyd i’r llwyfan yn y Gwanwyn 2025 gyda’i thaith ‘Big Night In’.

Mae’r aml-offerynwraig sydd mor boblogaidd ar Tik-Tok yn edrych ymlaen yn fawr at rannu ei chaneuon a straeon newydd gyda chi, a berfformir ochr yn ochr â ffefrynnau o’i halbymau blaenorol a’i fersiynau unigryw hi o glasuron traddodiadol Cymreig.

Yn ei sioeau byw mwyaf uchelgeisiol hyd yma, bydd Bronwen, gyda’i chynhesrwydd naturiol a’i band byw anhygoel yn mynd â chi ar daith fythgofiadwy o wahanol ddulliau cerddorol ac emosiynau.

Mae’r gantores-gyfansoddwraig Gymreig sydd ag arddull sy’n eistedd rhywle rhwng Canu Gwlad, Pop, Gwerin a’r Felan, yn hynod falch o’i dwyieithrwydd a derbyniodd glod rhyngwladol pan gymerodd ran yn The Voice, gan wneud argraff fawr ar Tom Jones. Yn sgil y profiad hwnnw bydd Bronwen yn eistedd cyn bo hir ar un o'r cadeiriau coch enwog fel beirniad ar Y Llais, y fersiwn Gymraeg o The Voice.

Peidiwch â methu allan ar y cyfle prin hwn, archebwch ‘nawr a byddwch yn rhan o Big Night InBronwen!

Neges oddi wrth Bronwen:

‘Wel helo cariad, ‘Rwyf wrth fy modd i fod ar daith eto a gweld eich wynebau hyfryd. ‘Rwyf wedi bod yn brysur yn ysgrifennu caneuon newydd, cyfieithiadau ac yn hel atgofion am straeon doniol o’m plentyndod a’m gyrfa - ac ni allaf aros i'w rhannu gyda chi!’

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 21 Mawrth, 2025
20:00