Ewch at gynnwys
Event Image
Maw 21 Hyd
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: Croeso i bawb

Trefn Amseri:  30 munud Perfformiwr Cymorth - Me Lost Me / toriad 20 munud / 70 munud -  Cerys Hafana

Mae Cerys Hafana yn gyfansoddwraig ac yn aml-offerynwraig sy'n manglo, yn dehongli ac yn trawsffurfio cerddoriaeth draddodiadol.Daw Cerys o Fachynlleth, lle mae afonydd a ffyrdd yn cyfarfod ar y ffordd i’r môr.

Prif offeryn Hafana yw'r delyn deires Gymreig ac mae’n archwilio ei holl bosibiliadau creadigol a'i rhinweddau unigryw, gan chwarae gyda synau a ddarganfuwyd, deunyddiau archifol a phrosesu electronig. Mae’r gerddoriaeth hudolus yn gyfoethog o ran awyrgylch a chalon ac yn gwrthsefyll yn ystyfnig blychau genre a dosbarthiad hawdd.

Mae Angel, ei halbwm diweddaraf ar tak:til/Glitterbeat, a ryddhawyd ym mis Medi 2025, yn archwiliad dwfn o gerddoriaeth finimalaidd, traddodiadol ac avant-werin, gan newid rhwng caneuon (i gyd yn y Gymraeg) a darnau offerynnol, yn aml yn cael eu cefnogi gan driawd medrus o gerddorion cyseiniol ac arloesol (drymiau, bas dwbl, sacsoffon alto). Yn 2026, bydd sioeau byw yn cynnwys y sain triawd deinamig newydd hwn.

Mae ehangder ac arloesedd anghyffredin Angel yn cadarnhau’n sicr mai Hafana yw un o artistiaid gwerin cyfoes ifanc mwyaf cyffrous y DU, gyda’r Guardian yn cynnwys yr albwm fel Albwm Werin y Mis.

“Angel yw’r drydedd albwm mewn 18 mis a ryddhawyd gan y gantores a cherddores hynod brydferth, eithriadol ac anturus hon …. Mae dull Hafana yn ddyfeisgar dros ben … mae’r albwm yn ei chyfanrwydd yn cael effaith ddofn, gan ganmol cylch bywyd, a phriodweddau ffantastig cerddoriaeth ac amser.” Jude Rogers, y Guardian

Mae Cerys wedi ennill cefnogaeth cynulleidfaoedd yn amrywio o End Of the Road i'r Eisteddfod ac o Ŵyl Gerddoriaeth BBC 6 i Transmusicales gyda'i sain hudolus, flaengar.

"Mae'n gerddoriaeth amrwd, daer ac effeithiol, ac mae'n gosod y naws ar gyfer albwm hynod hyderus sy'n teimlo fel dyfodiad sylweddol…Mae Hafana yn adeiladu chwyddiadau hynod bwerus o deimlad ac awyrgylch, gyda'i meistrolaeth ar y delyn a'r piano, gan ganiatáu gwthiad y tu hwnt i avant-werin tuag at leiafsymiaeth dywyll, ffres a jas-nad-yw’n-jascraff. Peidiwch â chysgu.” The Wire

“Gan newid rhwng caneuon Cymraeg a darnau offerynnol, mae Hafana yn arbrofi gyda chymysgedd beiddgar o draddodiad gwerin ac arbrofoliaeth auteur ...” UNCUT

Perfformiwr Cymorth: Me Lost Me

Mae Me Lost Me yn ymhyfrydu mewn arbrofi gydag ysgrifennu caneuon, gan greu cymysgedd hudolus o leisiau esgynnol ac electroneg atmosfferaidd sy'n gwthio ffiniau’r genre yn chwareus. Mae’n brosiect yr artist Jayne Dent o Newcastle sy'n cael ei dylanwadu gan gerddoriaeth werin, pop celf, sŵn, cerddoriaeth amgylchynol a byrfyfyr - disgrifiwyd ei gwaith yn y Guardian fel "stripping folk back to its bones while letting its future echoes bleed out". Gyda'i hysgrifennu toreithiog a'i hamserlen deithio helaeth, mae ei sain unigryw wedi ennill iddi lawer o gefnogaeth ar draws y sbectrwm cerddorol. Mae Dent wedi perfformio'n fyw yn nodedig ar gyfer Gŵyl After Dark Radio 3 y BBC ac fel rhan o Proms y BBC 2022 ochr yn ochr â Spell Songs, Royal Northern Sinfonia a Chôr The Voices of the Rivers Edge. Derbyniodd Wobr glodwiw Sefydliad Paul Hamlyn i Gyfansoddwyr ac ‘roedd yn Artist Preswyl 2020-2021 yn Sage Gateshead. Ar bedwerydd albwm llawn Me Lost Me, This Material Moment, a ryddhawyd ym mis Mehefin 2025, mae hi wedi creu albwm hynod emosiynol, ei halbwm mwyaf gonest ac agored eto.

Iaith y Perfformiad: Cymraeg a Saesneg

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mawrth 21 Hydref, 2025
19:30