Ewch at gynnwys
Event Image
Mer 26 Tach
·
Comedi

Event Info

Canllaw Oedran:16+ oed

Rhediad:40 munud/toriad 15 munud/40 munud

Mae’r Clwb Comedi yn dychwelyd i’r Theatr Stiwdio yn ystod yr hydref eleni!

Yn nodweddu:

Nicola Mantalios (Cyflwynydd)

“Yn ddoniol ar lefel uwch, grym natur comedig ” - Louise Young

“Mae Nicola yn un o'r digrifwyr mwyaf naturiol hyderus yr wyf wedi gweld ers dros 20 mlynedd. Mae hi'n cynrychioli brîd newydd o gomedïwyr artistig anneuaidd cwiar sydd â’r gallu a’r dewrder i newid y sîn gomedi gyfredol yn rhywbeth ffres a chwbl flaengar!” “Eicon comig benywaidd cwiar chwyldroadol” - Paul Currie

“Mae Nicola yn gyflwynydd gwych, gyda gallu anhygoel i ddod ag ystafell at ei gilydd trwy neidio rhwng cynhesrwydd a sylwadau pigog yn ei gwaith torfol. Archebwch hi!!" - MC Hammersmith

“’Roedd ei gyrfa ym maes comedi yn llwyddiant ysgubol o'r dechrau” - NE Volume

“Act eithriadol, ychydig iawn sy’n gallu gwneud yr hyn mae hi'n gwneud” - FELT NOWT

Elaine Robertson

Digrifwraig o Swydd Durham a wnaeth ei hymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2024 gyda'i sioe Delulu ac mae’n un o'r rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Gomedi Newydd y BBC yn 2022.

Gwobrau:

Rownd derfynol Digrifwr y Flwyddyn Sean Lock Sianel 4 - 2024

Gwobr Panel Gŵyl Ymylol Caeredin - ENILLYDD 2024

Digrifwr Newydd y Flwyddyn y BBC 2022 - Rownd derfynol Ranbarthol

Fel y’i gwelir ar BBC3

‘'Rwyf wedi bod yn gwneud comedi ers dros 20 mlynedd ac yn anaml iawn ‘dwi’n gweld rhywun sydd wedi'i geni i'w wneud'. - Matt Reed

'perfformiwr comedi naturiol' - Chortle

'gwnewch nodyn meddyliol i wylio ei gyrfa'n blodeuo'. - The Herald

'Mae gan Robertson reolaeth dros yr ystafell' - Three Weeks

'gwyliwch y ddigrifwraig dalentog hon yn cymryd cam arall tuag at serendod cenedlaethol' - The Crack Magazine

Peter Brush

Yn berfformiwr hynod nodedig ac yn awdur medrus jôcs wedi'u crefftio'n gain, mae Peter Brush yn cymryd y llwyfan yn ddiymhongar gyda'i ffrâm fain, ei sbectol a'i wallt blêr, cyn ei goncro'n berffaith gyda llwyth o jôcs un-linell mympwyol a miniog ac act wreiddiol ddigyffelyb, y cyfan wedi'i gyflwyno mewn modd chwithig o ddoniol.

Mae Peter yn perfformio mewn clybiau blaenllaw ledled y DU, yn ogystal â chymryd rhan mewn llawer o'i gwyliau mwyaf. Mae hefyd wedi gwneud sioeau yn y Swistir, Norwy a Hwngari. Yn gynt yn un a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Gomedi Newydd y BBC, mae wedi ysgrifennu ar gyfer sawl sioe ar BBC Radio 4 ac ‘roedd yn act gefnogi ar gyfer taith ddiweddaraf Alexei Sayle. Mae actiau eraill y mae wedi'u cefnogi ar daith yn cynnwys Jonathan Pie, Jason Manford, Fern Brady, Arthur Smith a Paul Sinha.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mercher 26 Tachwedd, 2025
20:00