Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 31 Mai
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: Croeso i bawb

Rhediad: 50 munud/toriad 20 munud/50 munud

Yn dathlu Cerddoriaeth Newydd o Gymru, mae Cymru Rising yn uno pedwar o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru sy’n dod i’r amlwg ar gyfer taith sy’n hyrwyddo synau beiddgar, lleisiau ffres, ac amrywiaeth gyfoethog cerddoriaeth Gymreig - trwy eiriau dwyieithog, dylanwadau aml-ddiwylliannol, a theithiau sonig eclectig. Mae Panedeni yn gweu tapestri bywiog o draddodiadau Arabaidd a Chymreig, gan blethu offerynnau, rhythmau ac ieithoedd yn brofiad croes-genre. Mae Floriane Lallement yn crefftio alt-pop atmosfferaidd, atgofus, lle mae lleisiau etheraidd yn cwrdd â dyfnder emosiynol. Mae TeiFi - “ffan natur gyda mymryn o danbeidrwydd” yn perfformio cyfuniad gwreiddiol o bop Celtaidd etheraidd sydd wedi’i ysbrydoli gan natur, ochr yn ochr â hip-hop dwyieithog, doniol. Mae Gary ar Clarion yn herio unrhyw gategoreiddiad - gan asio’r gair ar lafar, gweadau arbrofol ac egni pync yn rhywbeth gwbl unigryw. Gyda'i gilydd, maent yn creu llwybrau newydd ac yn cysylltu diwylliannau trwy sain. Mae Cymru Rising yn fwy na sioe ar daith - mae’n ddathliad o ddyfodol cerddoriaeth Gymreig.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sadwrn 31 Mai, 2025
19:30