Event Info
Canllaw Oedran: Addas i bawb
Rhediad: 60 munud dim toriad
Dewch i brofi’r ffefryn teuluol hwn ar y sgrîn fawr gyda chyfeiliant cerddorol band pres byw gwych! A all Wallace a Gromit gael y gorau ar y pengwin drwg Feathers McGraw wrth iddo geisio dwyn diemwnt o’r amgueddfa? I ffeindio allan, dewch draw i’r digwyddiad cerddorol hudolus hwn, sydd hefyd yn cynnwys clasuron Nadolig, a berfformir gan y Cory Band, un o’r bandiau pres gorau yn y byd!
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.