Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 21 Chw
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: 12+ oed

Rhediad: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud

Nod Cymraeg Mandinka Connections yw tynnu sylw at y tebygrwydd rhwng rhannu straeon llên gwerin hynafol trwy gerddoriaeth yng Nghymru a Gambia. Mae'r prosiect yn gweld y gantores Gymreig Mari Mathias a'r chwaraewr kora o Gambia, Sura Susso, yn dod at ei gilydd mewn cydweithrediad unigryw sy'n harneisio parch, gwybodaeth a phrofiad dwfn y ddau artist ym maes adrodd straeon cerddorol, sy'n cyfuno'r hynafol gyda straeon a steiliau cerddorol modern. Cyflwynir gwrandawyr i fewnwelediad i lên gwerin Cymru a Gambia y gellir ei gysylltu â'r cyfnod cyfoes.

Daw Sura o deulu griot (a elwir yn Jali yn iaith Mandinka) sy'n adroddwyr straeon traddodiadol o Orllewin Affrica - haneswyr a cherddorion llafar sy'n cadw/rhannu eu hanes/traddodiadau trwy ganmoliaeth, caneuon a straeon. Mae griots wedi bod o gwmpas ers canrifoedd, gyda’u tarddiad yn mynd yn ôl i Ymerodraeth Mande'r 13eg ganrif. Mae cerddoriaeth Sura yn rhannu caneuon gwerin traddodiadol diwylliant Mandinka Gorllewin Affrica ac mae'n cyfansoddi gweithiau newydd gan gydweithio gyda llawer o artistiaid ledled y byd. Mae angerdd Sura dros wthio'r ffiniau'n gyson o fewn ei ymarfer cerddorol wedi arwain at ddatblygiad y prosiect hwn ar y cyd gyda Mari Mathias, artist ifanc o Gymru sy'n tynnu ar lên gwerin a mytholeg Cymru yn ei cherddoriaeth. Mae ei steil cerddorol 'gwerin amgen' yn cynrychioli golwg ffres a modern ar draddodiadau cyfoethog cerddoriaeth Gymreig, gyda'r nod o bontio'r bwlch rhwng y gorffennol a'r presennol, gan feithrin ymdeimlad dwfn o hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig a pherthyn.

Mae'r ddau artist yn perfformio yn eu hieithoedd cyntaf, sef y Gymraeg/Mandinka, ac mae hyn yn rhan enfawr o'u hunaniaeth fel pobl ac artistiaid sydd hefyd yn llunio hunaniaeth y straeon a berfformir ganddynt sydd wedi eu trosglwyddo o draddodiadau llafar ers canrifoedd. Mae Sura a Mari yn angerddol o ran gwarchod eu hieithoedd brodorol ac maent am eu rhannu gyda chynulleidfaoedd newydd er mwyn parhau i hyrwyddo'r Gymraeg/Mandinka mor eang â phosibl.

Iaith y perfformiad: Saesneg / Cymraeg / Mandinka

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sadwrn 21 Chwefror, 2026
19:30