Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 6 Meh
·
Cerddoriaeth

Event Info

Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG

Rhediad: 75 munud/toriad 20 munud/85 munud

Taith Ffarwelio 2026 - Darkside, Sioe Pink Floyd

Mae Darkside wedi bod yn cyffroi ac yn cyfareddu cynulleidfaoedd ledled y wlad gyda'u sioe ysblennydd, yn cynnwys llais rhagorol Cariss Auburn, sy'n creu o bosib y fersiwn orau erioed o'r Great Gig in the Sky. Maent wedi perfformio mewn llawer o leoliadau unigryw a mawreddog, gan gynnwys Clawdd Offa, Eglwys Gadeiriol Wells, a sawl perfformiad ymdrochol o The Dark Side of the Moon ym Mhlanetariwm Syr Patrick Moore yn y Ganolfan Ofod Genedlaethol, lle cawsant eu henwebu ar gyfer Sioe Genedlaethol y Flwyddyn. ‘Nawr, ar ôl un mlwydd ar hugain ar y ffordd, bydd cynulleidfaoedd yn cael un cyfle olaf i brofi'r band.

Bydd y sioe yn cynnwys perfformiad sain-amgylchynol cwadraffonig cyflawn o'r gwaith arloesol The Dark Side of the Moon, ynghyd â ffefrynnau personol y band. Cyflwynir y cyfan gyda’r sioe fideo, golau a laser integredig.

Yng ngeiriau'r Douglas Adams gwych: “Hwyl fawr, a diolch am yr holl bysgod!”

www.darksidefloydshow.com

https://www.youtube.com/@thefloydshow

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sadwrn 06 Mehefin, 2026
20:00