Event Info
Yr Argraffiadwyr yw’r grŵp mwyaf poblogaidd yn hanes celf - mae miliynau’n tyrru bob blwyddyn i ryfeddu at eu campweithiau. Ond, ar y dechrau, ‘roeddent yn cael eu dirmygu, yn byw ar y cyrion, heb geiniog. 1874 oedd y flwyddyn a newidiodd bopeth. Bu’r Argraffiadwyr cyntaf, “gan newynu am annibyniaeth”, yn torri’r mowld trwy gynnal eu harddangosfa eu hunain y tu allan i sianeli swyddogol. Ganwyd Argraffiadaeth a newidiwyd y byd celf am byth.
Beth arweiniodd at y sioe arloesol gyntaf honno 150 mlynedd yn ôl? Pwy oedd y personoliaethau arbennig hynny a fu'n trin eu brwsys mewn ffordd mor radicalaidd a phryfoclyd? Mae arddangosfa ysblennydd y Musée d’Orsay yn dod â llygaid ffres i’r stori ryfeddol hon am angerdd a gwrthryfel. Adroddir yr hanes nid yn unig gan haneswyr a churaduron, ond yng ngeiriau’r sawl oedd yn dystion i enedigaeth Argraffiadaeth: yr artistiaid, y wasg a phobl Paris, 1874.
Gwnaethpwyd mewn cydweithrediad agos gyda’r Musee d’Orsay ac Oriel Gelf Genedlaethol Washington DC.
90 munud, dim hysbysebion.
Tocynnau i gyd yn £11.50 (gan gynnwys ffi archebu).