Event Info
John McTiernan, UDA 1988, 132 munud
Dyma bleser euog eithaf ffilmiau'r Nadolig - pwy all wrthsefyll y profiad o wylio ditectif yr NYPD, John McClane (Bruce Willis) ar y sgrîn fawr yn mynd i'r afael ar ei ben ei hun â grŵp o derfysgwyr (dan arweiniad Alan Rickman) pan gaiff ei wraig ei dal yn wystl mewn adeilad swyddfeydd aml-lawr.