Event Info
John Badham, UDA 1977, 122 munud
Adferiad 4K arbennig o’r clasur Disgo rhyfeddol hwn, y ffilm a gychwynnodd Discomania ledled y byd, yn dangos mewn fersiwn ffafriedig y cyfarwyddwr. Ymunwch â John Travolta wrth iddo wisgo ei grys coler llydan, ei drowsus ymledol a'i esgidiau platfform i ddianc o’i fywyd diflas i fyd goleuadau llachar a cherddoriaeth guriadol llawr dawnsio Disgo'r 1970au.Gydag Alan Jones yn cyflwyno.
Discomania + Saturday Night Fever + The Music Machine
(Lansio llyfr, sesiwn Holi ac Ateb gyda’r awdur + dwy ffilm Ddisgo glasurol!)
‘Roedd Alan Jones yn rhan arloesol o chwyldro’r Sex Pistols; bu'n gweithio ochr yn ochr â'r dylunydd Vivienne Westwood ac mae’n wir arbenigwr ar Ddisgo. ‘Roedd ar flaen y gad yn chwyldro diwylliannol Prydain: mae wedi gweld y cyfan ac wedi gwneud y cyfan.I ddathlu cyhoeddi ei hunangofiant 'Discomania', ymunwch ag Alan ar ei daith o amgylch y DU am noson o ffilmiau, sgyrsiau ac hanesion anhygoel o gyfnod y Disgo.
'Discomania' yw’r anturiaeth ddawns eithaf sy'n cwmpasu dros 100 o ffilmiau Disgo rhwng 1974-2024, gan ddatgelu pam eu bod yn bwysig yn gerddorol a pha atgofion heb eu sensro y maent yn eu tanio o'i fywyd fel critig ffilm arloesol.
Ynghyd â sesiwn Holi ac Ateb hwyliog llawn gwybodaeth, gallwch ddawnsio i fersiwn ffafriedig y cyfarwyddwr oSATURDAY NIGHT FEVERyn ogystal ag adferiad newydd sbon Severin Films o ateb Prydain ym 1979 i’r clasur Disgo gwych hwnnw, THE MUSIC MACHINE, sy’n nodweddu seren y dyfodol Patti Boulaye a thrac sain rhythmig bendigedig. Mwynhewch Ffrwydriad Disgo llawn hwyl, pync a ffync wrth i’r awdur a’r critig aml-arobryn ddatguddio curiadau ffantastig - a lle i ddod o hyd iddynt.
Archebwch isod am Saturday Night Fever: Director’s Cut (18)
Archebwch YMA am Discomania: Alan Jones On Stage ** AM DDIM **
Archebwch YMA am The Music Machine (PG)
Cynnig Arbennig : Archebwch y ddwy ffilm i gael gostyngiad - y ddwy ffilm am £10.00 gan gynnwys ffi archebu