Event Info
Anturiaeth ar y sgrîn fawr i'r rhai bach na ddylid ei cholli gyda phrofiad sinema awr o hyd, yn cynnwys Mickey Mouse Disney a'i ffrindiau, Spidey ac Iron Man Marvel, ynghyd â SuperKitties, Bluey a rhagor! Os mai hwn yw eu hymweliad cyntaf â’r sinema, neu os ydynt yn mwynhau ffilmiau'n rheolaidd, dyma rywbeth i'r teulu cyfan, ac fe'ch anogir i ymuno yn y canu, dawnsio, gemau rhyngweithiol, a digwyddiadau hwyliog.
Bydd y goleuadau ar y gosodiad isaf a dim ond £5.50 yr un yw'r holl docynnau (plant dan 2 oed am ddim).