Event Info
Cynhyrchiad Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch,gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr
Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau
Gan Mererid HopwoodCerddoriaeth gan Seiriol Davies
Mae pawb yn gyffro i gyd ar ddiwrnod cynta’r tymor yn Ysgol Gwaelod y Garn. Ond mae’r plant ar fin cael newyddion drwg... mae’r ysgol yn mynd i GAU!
Wrth i Alfred, Elen a’u ffrindiau geisio meddwl am ffordd o achub eu hysgol fach, mae athrawes newydd a braidd yn llym yr olwg yn cyrraedd: Miss Prydderch. Ond cyn hir, daw hi’n amlwg ei bod hi’n athrawes anghyffredin o arbennig. Os gall unrhyw un helpu’r plant i achub yr ysgol, Miss Prydderch yw’r un!
Mewn sioe sy’n llawn dop o ddireidi, dychymyg a cherddoriaeth, cewch deithio gyda dosbarth Miss Prydderch ar antur fythgofiadwy lle mae’r ffrindiau’n trechu eu hofnau a darganfod pwysigrwydd codi eu lleisiau.
Dyma sioe gerddhudolus newydd sy’n dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan, gyda sgript newydd sbon gan Mererid Hopwood, a cherddoriaeth fywiog gan Seiriol Davies.
Whwsh! Bant â ni!
I archebu tocyn, cysylltwch â Arad Goch: Anne@aradgoch.org/ 01970 617998
Canllaw Oedran: 7+ oed
Rhediad: 75 munud dim toriad
Iaith y perfformiad: Cymraeg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.