Event Info
Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG
Rhediad: 55 munud/toriad 20 munud/55 munud
Wedi’i goroni’n ‘Bencampwr y Byd 2024’ o ran Artistiaid Teyrnged i Elvis gan Elvis Presley Enterprises yn Graceland, mae Emilio Santoro yn dod â’i sioe arobryn ELVIS PRESLEY i’r DU.
Gan berfformio gyda’i fand byw dilys o’r 50au, The Creoles, mae Emilio yn dathlu blynyddoedd iau Elvis mewn steil ysblennydd, gan fynd â chi yn ôl i’r amser pan newidiodd Elvis y byd a cherddoriaeth am byth!
Gwisgwch eich ‘sgidiau dawnsio a byddwch yn barod i symud i’r caneuon Roc a Rôl mwyaf erioed gan gynnwys Jailhouse Rock, Devil in Disguise, Can’t Help Falling in Love, Hound Dog, Suspicious Minds a llawer mwy.
Peidiwch â methu’r cyfle hwn i weld Artist Teyrnged mwyaf blaenllaw'r byd i Elvis - yn swyddogol!
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.