Event Info
Mae Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn cyhoeddi:
'Finalsfest25'
Perfformiadau Unigol gan Fyfyrwyr 3ydd Flwyddyn BA Ddrama a Theatr
Call to Stage
Molly Aitken
18:15 & 19:00 22 Mai
Round Studio, Aberystwyth Arts Centre
Pethau rhyfedd, drychau, ‘dach chi ddim yn meddwl?
Gwyliwch 20 munud olaf y berfformwraig Jess wrth iddi baratoi i fynd ar y llwyfan. Mae Call to Stage yn cynnig golwg agos-atoch ar ei hystafell wisgo, gan bylu’r llinell rhwng oddi ar y llwyfan ac ar y llwyfan. Trwy adlewyrchiad drychau, cawn gipolwg ar fywyd Jess - yn ddi-hid, yn onest, ac yn deimladwy. ‘Rwy'n eich gwahodd i edrych yn ofalus, oherwydd mae drychau'n dweud y gwir, onid ydynt?
Gwybodaeth Allweddol: 12 oed+. Cynghorir arweiniad rhieni, oherwydd natur y thema sy'n ymwneud â delwedd y corff a defnydd iaith.
Canllaw Oedran: 12+ oed
Rhediad: 20 munud
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.