Event Info
Mae Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn cyhoeddi:
'Finalsfest25'
Perfformiadau Unigol gan Fyfyrwyr 3ydd Flwyddyn BA Ddrama a Theatr
Uppa
James Sesay
19:30 21 Mai & 14:30 22 Mai
Theatr y Castell, Aberystwyth
Dau ddiwylliant, un stori - darganfyddwch y daith rhwng Sierra Leone a'r Iseldiroedd.
Dyma stori bersonol a adroddir gan James Sesay, sy'n gweithredu fel yr adroddwr a'r perfformiwr. Trwy adrodd straeon, mae James yn myfyrio ar ei fagwraeth rhwng Sierra Leone a’r Iseldiroedd, gan gynnig golwg pwerus ar y cyferbyniadau rhwng diwylliant, traddodiadau ac ieithoedd y ddwy wlad.
Mae’r perfformiad hwn nid yn unig yn rhannu ei daith ond hefyd yn gwahodd y gynulleidfa i ystyried hanesion cyfoethog ac hunaniaethau bywiog y gwledydd.
Cynhelir y perfformiadau ar Nos Fercher 21ain Mai 7:30pm a Dydd Iau 22 Mai 2:30pm yn Theatr y Castell Aberystwyth.