Ewch at gynnwys
Event Image
Mer 12 Tach
·
Comedi

Event Info

CYFLWYNWYD GAN GŴYL ARSWYD ABERTOIR 2025

Canllaw Oedran: 16+ oed

Rhediad: 90 munud gyda toriad

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ei deithiau clodwiw Terrortome ac Incarcerat a werthodd dros 50,000 o docynnau ledled y DU ac Ewrop, mae awdur hynod lwyddiannus y Sunday Times a'r meistr adnabyddus ar ffuglen arswyd Garth Marenghi yn dychwelyd yn 2025 gyda'i daith fwyaf aflonyddgar ac uchelgeisiol hyd yma: This Bursted Earth.

Mae'r awdur arswyd Nick Steen yn cael gweledigaethau … Meindwr Du sinistr; goleuadau iasoer yn yr awyr sy'n edrych fel olwynion Catrin ond nid ydynt yn olwyn Catrin o gwbl … A sgerbwd enfawr gyda mwstas. Ai argoelion ydynt? Arwyddion? Rhybuddion o beth sydd i ddod? (Sbwyliwr – ydyn’, maen’ nhw).

Oherwydd mae dychymyg Nick Steen yn byrstio allan o'i ymennydd ac yn bygwth byrstio yn ei dro Stalkford cyfan. A all Nick atal y byrstio a grybwyllwyd eisoes? Neu a ydi pethau eisoes wedi byrstio ychydig beth bynnag? Ac a fydd yn y pendraw diweddglo mawreddog i'r gyfres dair-llyfr hon (a elwir hefyd yn drioleg) neu ddiwedd mwy agored er mwyn hwyluso’r potensial am ddilyniannau pellach? (Penderfyniad Garth fydd hynny, gyda llaw, yn y pen draw.)

O ddychymyg gwresog Garth Marenghi, Dychrynwr Mawreddog Ffuglen Arswyd, ac awdur gwerthwyr gorau’r Sunday Times TerrorTome ac Incarcerat, daw tair stori ffiaidd newydd am …

…THIS BURSTED EARTH…

Bydd cyfle gan gwsmeriaid gyda Phas Gŵyl Arswyd Abertoir 2025 i fynychu'r digwyddiad yma - manylion i ddod .....

Iaith y perfformiad: Saesneg

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mercher 12 Tachwedd, 2025
20:00