Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 14 Tach
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: 16+ years

Rhediad: 110 munud gan gynnwys toriad

Mae’r cwmni adloniant lleol Haka Entertainment yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau am y pumed tro gyda’u sioe gerddoriaeth fyw boblogaidd, Hakoustic.

Yn cael ei chynnal yn awyrgylch clyd y Stiwdio Gron gyda’r seddi ar ffurf cabare, mae’r sioe yn rhoi llwyfan i rai o'r talentau lleol gorau weithio a pherfformio ochr yn ochr â nifer o westeion arbennig iawn, tra bod y gynulleidfa yn cael mwynhau chwech act am bris un!

Bydd y perfformiad hwn yn cynnwys artistiaid lleol Virgil McMahon, Barry & Efan ac Elan Gwilym; slotiau gwadd gan yr anhygoel Ruth Elder a Raphael Tate cyn y brif set gan Kedma, cyd-sylfaenydd Haka, a'r Mo Pleasure digyffelyb!

Gyda dim ond 80 o docynnau ar gael, mae’r sioe yn sicr o werthu allan, felly archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi!

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 14 Tachwedd, 2025
19:30