Event Info
Canllaw Oedran: 3+ oed
Rhediad: 50 munud dim toriad
Y gairSaesneg ‘Hay!’ yw’r unig air yn ein sioe - ‘Hay!’ fel y stwffin ym mwgan brain Geenie, ‘Hay!’ fel y sŵn mae hi’n gwneud pan ddaw e’n fyw a ‘Hay!’ ei air cyntaf pan mae’n gweld holl ryfeddodau’r byd naturiol am y tro cyntaf. Dim ond un gair ond cymaint o ystyron mewn sioe am dyfu i fyny yng nghanol cefn gwlad a darganfod nad oes yn rhaid i chi aros yn sownd yn y mwd - gallwch fyw eich breuddwydion, lledaenu’ch adenydd a hedfan fel yr adar. Sioe hynod hygyrch sy’n llawn pypedwaith, cerddoriaeth, clownio, canu a dawnsio.
Iaith y perfformiad: Saesneg: Dim ond un gair a ddefnyddiwyd yn y sioe - 'Hay!' - ac mae'n cael eu defnyddio mewn llawer o wahanol ffyrdd (Hay! yn meddwl gwellt, hei - dyna sypreis, hei - cewch o na adar). Mae'r holl gyfathrebu arall yn gorfforol ac yn weledol, a bydd y sioe yn hygyrch iawn i gynulleidfa eang.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.