Event Info
Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG
Rhediad: 50 munud/toriad 20 munud/50 munud
Hometown Glory Candlelit Concert
Y sioe deyrnged Adele arobryn gyda Natalie Black yn serennu.
Noson hyfryd, agos-atoch sy’n cynnig datganiad yng ngolau cannwyll o lyfr caneuon bendigedig Adele, a gyflwynir yn fyw mewn cyngerdd.
Mae cerddorion penigamp yn ymuno â’r hynod dalentog Natalie Black fel Adele. Dyma wledd i unrhyw un sy'n dymuno mwynhau noson euraidd arbennig iawn o’i chaneuon mwyaf poblogaidd megis Set Fire to the Rain, Make You Feel my Love, Someone Like You, a llawer mwy.
Mae’r sioe yn arddangos talentau cerddorion gorau’r diwydiant, gwisgoedd o’r safon uchaf, trefniannau cerddorol gwych, a gwerthoedd cynhyrchu heb eu hail ...
Felly, dewch i weld drosoch eich hunain, a chymerwch ran mewn noson o hwyl ac adloniant pur.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.