Event Info
Canllaw Oedran: Dim
Trefn Amseri: 80 munud - dim toriad
Gwybodaeth Mynediad:
- Mae pob perfformiad yn cynnwys capsiynau
- 27ain Mawrth: Perfformiad a ddisgrifiwyd gan sain wedi'i gyflwyno gan Ioan Gwyn
- 27ain Mawrth: Sgwrs ar ôl y sioe
- 29 Mawrth: Perfformiad BSL - Dehonglydd BSL Tony Evans yn ei le ar chwith y llwyfan
Theatr Sherman a Hijinx sy’n cyflwyno drama gerddorol yn seilieidg ar stori wir am ffrindiau o Gaerdydd a newidiodd y byd.
Cafodd Alan ei eni â syndrom Down, ei freuddwyd oedd byw mewn tŷ a bod mewn band. Myfyriwr oedd Jim, ei freuddwyd oedd gwneud gwahaniaeth yn y byd, ond sut?
Gyda’i gilydd dechreuodd arbrawf a chwyldroi’r system gofal.
Yn cael ei pherfformio gan gast actor-gerddorion niwrowahanol a niwronodweddiadol ac yn cynnwys aelodau o Academi Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Hijinx, mae Housemates yn stori syfrdanol ac yn llawn caneuon byw a phoblogaidd o’r 70au.
** Gostyngiad 10% i grwpiau o 8 neu mwy **
Canllaw Cynnwys: Defnyddio termau hen ffasiwn ar gyfer pobl anabl, 'ableism', iaith gref a disgrifiadau o gam-drin.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.