Event Info
Gŵyl Serameg Ryngwladol -27 - 29 Mehefin 2025
Ers 1987 mae’r Ŵyl Serameg Ryngwladol, a gynhelir bob dwy flynedd, wedi datblygu i fod yn un o ddigwyddiadau serameg mwyaf blaenllaw’r DU.
Wedi’i threfnu gan Grochenwyr Gogledd Cymru a Chrochenwyr De Cymru ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth a Chanolfan y Celfyddydau, mae’r ŵyl yn denu dros 1000 o ymwelwyr ar gyfer penwythnos hir o ddathlu serameg. Dewch i weld a mwynhau gwaith crochenwyr ac artistiaid serameg adnabyddus rhyngwladol o Gymru, y DU a ledled y byd gan gynnwys Gwlad Belg, Ffrainc, Iwerddon, Twrci, Siapan ac India.
Yn 2025 bydd cynaliadwyedd yn thema sy’n rhedeg trwy lawer o’r arddangosiadau, darlithoedd, taniadau odynau, a thrafodaethau, gyda gweithdai a gweithgareddau ymarferol ar gyfer ymwelwyr o bob oed. Mae’r arddangosfeydd yn cynnwys Serameg a Sain yn y brif oriel, a chyfleoedd gwych i brynu gwaith o’r sawl sy’n ymddangos, sioe Crochenwyr Gogledd a De Cymru, yr arwerthiant cwpan hynod boblogaidd ac hyd yn oed yn uniongyrchol o’r odynau.
Bydd Tocynnau Cynnar ar gael o fis Rhagfyr tan Chwefror 28ain2025.
Cynnig arbennig i grŵp o 10+: Prynwch 10 tocyn a cewch tocyn ychwanegol am ddim
Am y wybodaeth ddiweddaraf gan gynnwys manylion o Raglen yr Ŵyl a’r Arddangoswyr ymwelwch â:
www.internationalceramicsfestival.org
Prisiau’r Tocynnau:
Pris llawn y penwythnos £210
Tocyn penwythnos i NWP/SWP £185
Tocyn penwythnos i fyfyrwyr £130
Tocyn Dydd Gwener Pris Llawn £100
Tocyn Dydd Gwener NWP/SWP £80
Tocyn Dydd Sadwrn Pris Llawn £140
Tocyn Dydd Sadwrn NWP/SWP £120
Tocyn Dydd Sul Pris Llawn £130
Tocyn Dydd Sul NWP/SWP £110
Anghenion Mynediad:Cysylltwch â ni i archebu lle os oes gennych unrhyw anghenion mynediad neu os oes gennych gerdyn Hynt. Mae tocynnau gofalwyr ar gael drwy'r Swyddfa Docynnau.
Ble i aros: Os ydych am archebu llety ym Mhrifysgol Aberystwyth, ewch i https://bookaccommodation.aber.ac.uk/ a defnyddiwch y Cod Hyrwyddo ICF2025. Mae lleiafswm o dair noson ar y llety yn y lle cyntaf. Byddwn yn agor am o leiaf dwy noson ar unrhyw lety sy'n weddill ddydd Llun 16 Rhagfyr.
Gellir gwneud ymholiadau am lety gyda Swyddfa Gynadledda'r Brifysgol ar 01970 621960 neu constaff@aber.ac.uk.
Cyfle ychwanegol cyffrous i fynychwyr yr Ŵyl
> Gweithdykintsugi gydag Iku Nishikawa Dydd Gwener 27 Mehefin 11:00-14:00
Wedi'i geni yn Kochi yn Japan abellach yn byw yn Rhydychen, dysgodd Iku gelfyddyd kintsugi gan y meistri Siapaneaidd Shimode Muneaki a Sato Takahiko. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi datblygu technegau kintsugi i wneud y dull adfer hardd hwn yn fwy hygyrch y tu allan i Siapan.
Bydd Iku yn darparu'r offer a'r deunyddiau. Gall fynychwyr y dosbarth ddod â'u darn eu hunain i'w atgyweirio neu brynu plât bach (£7.00) i greu trawsnewidiad cyffrous. Cost y gweithdy yw £140 (nid yw'n cynnwys tocyn i'r ŵyl). Mae’r nifer yn gyfyngedig i 12.
Sicrhewch eich lle i ymuno â dosbarth celf kintsugi trwy wefan Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yma.
> Gweithdy 4-diwrnod adeiladu odynau gyda'r arbenigwr ac awdur Joe Finch Dydd Mercher 25 - Dydd Sadwrn 28 Mehefin
Mae Joe wedi bod yn ymwelydd rheolaidd yng Ngŵyl Serameg Ryngwladol ers blynyddoedd lawer, gan dynnu ar brofiad gwirioneddol fyd-eang o adeiladu odynau. Yn y dyddiau cyn agoriad yr ŵyl, ymunwch â Joe ar weithdy ymarferol 4 diwrnod ar adeiladu, pentyrru a thanio odyn soda wedi'i thanio â phren o'i gynllun ei hun. Gall fynychwyr ddod â'u potiau crochenwaith bisque eu hunain i'w gwydro a'u tanio.
Y ffi am y cwrs yw £300 (nid yw'n cynnwys tocyn i'r ŵyl). Lleoedd cyfyngedig - 6 yn unig.
Sicrhewch eich lle i ymuno â'r gweithdy adeiladu odynau trwy wefan Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yma.