Ewch at gynnwys
Event Image
Llun 28 Ebr - Llun 14 Gor
·
Cyrsiau Wythnosol

Event Info

Tymor 3: 28.04.2025 - 14.07.2025  

Faint o wythnosau: 10 wythnos (dim gwers ar 5ed o Fai neu yn ystod hanner tymor)  

Pryd: Dydd Llun 4.30yp - 5.30yp 

Oed: 14+ 

Lleoliad: Stiwdio Perfformio 

Tiwtor: Steffan Rees

  Ydych chi eisoes yn gallu chwarae ychydig o’r ukulele? Beth am ymuno â Iwcadwli sef cerddorfa ukulele Cymraeg ei iaith yma yn Aberystwyth? Dan arweiniad y cerddor lleol Steff Rees cewch hwyl wrth ddatblygu eich sgiliau cerddorol tra’n dysgu caneuon Cymraeg o bob math. Croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg o bob lefel gan gynnwys dysgwyr brwd. Caiff Iwcadwli ei redeg mewn partneriaeth gyda Cered: Menter Iaith Ceredigion

-          Grŵp Sylfaen 4.30-5.30 Grŵp wedi ei deilwra at chwaraewyr llai profiadol fydd yn canolbwyntio ar ganeuon fwy syml gan ddatblygu hyder a sgiliau offerynnol ar gyflymder arafach. Bydd y caneuon yn rhai tri cord i gychwyn gyda chordiau C, F, G neu G, C, D gyda chordiau a thechnegau pellach yn cael eu cyflwyno yn araf deg.

-          Grŵp Uwch 6.00-7.00 ARCHEBWCH YMA  Grŵp wedi ei deilwra at chwaraewyr mwy profiadol fydd yn canolbwyntio ar ganeuon ychydig mwy heriol gan gyflwyno cordiau a thechnegau newydd. Bydd y caneuon yn cynnwys rhai fydd yn eich gwthio gyda chordiau lleiaf ac anghyffredin yn ogystal â hen ffefrynnau hwyliog.

O bryd i’w gilydd fe fydd Iwcadwli yn cael gwahoddiad i berfformio yn gyhoeddus mewn digwyddiadau lleol ac fe fydd modd i aelodau’r ddau grŵp uno gan berfformio set o glasuron Cymraeg addas i bawb.

Event Image

Dyddiadiau

Archebwch nawr
Dydd Llun 28 Ebrill, 2025
16:30
Dydd Llun 14 Gorffennaf, 2025
16:30