Event Info
Tymor 3: 28.04.2025 - 14.07.2025
Faint o wythnosau: 10 wythnos (dim gwers ar 5ed o Fai neu yn ystod hanner tymor)
Pryd: Dydd Llun 6.00yp - 7.00yp
Oed: 14+
Lleoliad: Stiwdio Perfformio
Tiwtor: Steffan Rees
Ydych chi eisoes yn gallu chwarae ychydig o’r ukulele? Beth am ymuno â Iwcadwli sef cerddorfa ukulele Cymraeg ei iaith yma yn Aberystwyth? Dan arweiniad y cerddor lleol Steff Rees cewch hwyl wrth ddatblygu eich sgiliau cerddorol tra’n dysgu caneuon Cymraeg o bob math. Croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg o bob lefel gan gynnwys dysgwyr brwd. Caiff Iwcadwli ei redeg mewn partneriaeth gyda Cered: Menter Iaith Ceredigion
- Grŵp Sylfaen 4.30-5.30 ARCHEBWCH YMA Grŵp wedi ei deilwra at chwaraewyr llai profiadol fydd yn canolbwyntio ar ganeuon fwy syml gan ddatblygu hyder a sgiliau offerynnol ar gyflymder arafach. Bydd y caneuon yn rhai tri cord i gychwyn gyda chordiau C, F, G neu G, C, D gyda chordiau a thechnegau pellach yn cael eu cyflwyno yn araf deg.
- Grŵp Uwch 6.00-7.00 Grŵp wedi ei deilwra at chwaraewyr mwy profiadol fydd yn canolbwyntio ar ganeuon ychydig mwy heriol gan gyflwyno cordiau a thechnegau newydd. Bydd y caneuon yn cynnwys rhai fydd yn eich gwthio gyda chordiau lleiaf ac anghyffredin yn ogystal â hen ffefrynnau hwyliog.
O bryd i’w gilydd fe fydd Iwcadwli yn cael gwahoddiad i berfformio yn gyhoeddus mewn digwyddiadau lleol ac fe fydd modd i aelodau’r ddau grŵp uno gan berfformio set o glasuron Cymraeg addas i bawb.