Event Info
Canllaw Oedran: Addas i bawb ( Dim plant o dan 7 oed )
Rhediad: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud
O gysgod Wal Hadrian yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, mae Kathryn Tickell a The Darkening yn estyn allan i'r byd ehangach, gan gysylltu edeifion cerddoriaeth, tirwedd a phobl dros bron i 2000 o flynyddoedd. Wedi eu henwi ar ôl yr hen air Northymbraidd am gyfnos, mae 'The Darkening' yn cynnwys: Kathryn Tickell (pibau bach Northymbraidd, ffidil, llais), Amy Thatcher (acordion, clocsiau, synth, llais), Tim Bloomer (gitâr), Joe Truswell (drymiau) a Stef Conner (llais, telynau bach).
“…yn annisgwyl o gosmig” MOJO
“…bywiog ac hyderus, stomp gwerin” AMERICANA-UK
“Jigiau a chwyrliadau deinamig, syfrdanol… dyma'r egni ‘rydym am ei weld!” The List (Celtic Connections 2024).
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.