Event Info
Mae beirniad poblogaidd Great Pottery Throw Down a'r dylunydd serameg Keith Brymer Jones yn dychwelyd i'r llwyfan gyda sioe newydd sbon. Ymunwch â Keith ochr yn ochr â'i bartner mewn bywyd a busnes, yr actores a'r dylunydd Marj Hogarth, wrth iddynt rannu straeon am glai, crefft, a'u prosiect mwyaf uchelgeisiol hyd yma … sef rhoi bywyd newydd i hen adeilad.
Yn syth ar ôl ffilmio trydedd gyfres Our Welsh Chapel Dream ar gyfer Sianel 4, mae Keith a Marj yn eich gwahodd y tu ôl i lenni eu partneriaeth greadigol yn seiliedig ar adferiad Capel Salem, capel o'r 19eg ganrif yng Ngogledd Cymru sydd wedi'i restru’n Radd II. Gyda'i gilydd, maent yn datgelu'r uchafbwyntiau, yr isafbwyntiau a'r syrpreisys y maent wedi eu darganfod wrth roi bywyd newydd i adeilad hanesyddol - o lywio rheoliadau cynllunio Cymru i ddarganfod beth mae gwydnwch yn ei olygu o ddifrif pan mae’r to yn gollwng a’r gyllideb yn dynn. Ond nid yw hyn yn ymwneud ag achub adeilad yn unig. Mae'n ymwneud ag adfer canolfan gymunedol, creu lle i grochenwyr lleol hyfforddi fel prentisiaid, a thynnu Capel Salem yn ôl i ganol bywyd y pentref.
Gwyliwch Keith yn gweithio ei hud wrth droell y cochrenydd gydag arddangosiadau byw. Gwrandewch ar Marj yn rhannu ei hangerdd tuag at greu rhywbeth hardd allan o ddim, a pham ei bod wedi treulio degawdau yn dawel yn hyrwyddo crefftau cynaliadwy ymhell cyn i’r syniad ddod yn ffasiynol.
Mae hon yn noson am fwy nag adfer hen adeilad. Mae'n ymwneud â'r hyn yr ydym yn creu, paham yr ydym yn creu, a sut yr ydym yn datblygu yn sgil y proses. Gallwch ddisgwyl chwerthin, crochenwaith, partneriaeth, a'r math o gynhesrwydd a ddaw oddi wrth ddau berson sydd wedi dysgu creu bywyd gyda'i gilydd, un darn o waith crefft ar y tro.
Canllaw Oedran: 16+ oed
Rhediad: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.