Event Info
Canllaw Oedran: 12+ years
Rhediad: 75 munud/toriad 15 munud/75 munud
KENDAL MOUNTAIN TOUR 2026
Siaradwr byw a Ffilmiau Antur
Mae Kendal Mountain Events yn dychwelyd am dymor arall o antur a chysylltiad dynol. Profwch y gorau o dirweddau godidog y byd trwy ddetholiad a guradwyd o ffilmiau antur byrion arobryn Gŵyl Mynydd Kendal. Ond nid anturio yn unig yw'r ffocws, mae adrodd straeon hefyd wrth wraidd y digwyddiad hwn. Ochr yn ochr â'r ffilmiau pwerus, bydd siaradwyr antur a grwpiau cymunedol lleol yn cymryd y llwyfan i rannu eu straeon personol eu hunain, gan gynnig cysylltiad dyfnach â'r bobl y tu ôl i'r anturiaethau. Os ydych yn anturiwr brwd neu jyst yn rhywun sy'n trysori pŵer adrodd straeon a harddwch natur, bydd y noson yn sicr o’ch ysbrydoli a'ch cyffwrdd gan yr ysbryd antur dynol a rennir.
Iaith y perfformiad: Saesneg
Canllawiau Cynnwys: Posibilrwydd o Iaith Gref
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.