Event Info
Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG
Rhediad: 55 munud / toriad 20 munud / 60 munud
Mae Killer Queen wedi bod yn perfformio eu sioe deyrnged i Queen ers 1993. Mae eu doniau cerddorol, eu hegni rhyfeddol a’u portread manwl gywir o fand byw mwya’r byd wedi ennill iddynt, yn gwbl haeddiannol, y teitl o’r band teyrnged gorau oll i Queen. Gan wefreiddio cynulleidfaoedd orlawn ar draws y byd o’r DU i Ewrop gan gynnwys taith flynyddol o gwmpas UDA, mae Killer Queen yn ail-greu’r ffenomenon pwerus ac egnïol a oedd y Queen go iawn yn perfformio’n fyw. Disgrifiodd ‘Time Out’ debygrwydd Patrick Myers y prif ganwr i Freddie Mercury fel "annaearol”. ‘Roedd hyn yn amlwg iawn pan recordiodd gân hynod lwyddiannus yn canu fel Freddie Mercury ar record Fat Boy Slim 'The Real Life!'Mae’r nodweddion hyn, wedi eu cyfuno gydag amrediad tenor 3.5 wythfed pwerus, talent gerddorol arbennig a phresenoldeb llwyfan deinamig, wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd. “Ni ddylid methu’r boi hwn” - Golygydd - Gwefan Swyddogol Brian MayAnghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.