Event Info
Hiroyuki Hata, Japan 2025, 110mins, subtitled
Mae COLORFUL STAGE! The Movie: A Miku Who Can’t Sing yn ffilm animeiddio gan stiwdio PAWORKS sy’n cynnwys Hatsune Miku gwbl newydd. Dyma’r ffilm gyntaf hefyd i gyflwyno’r Virtual Singer eiconig. Yn seiliedig ar HATSUNE MIKU: COLORFUL STAGE!, gêm am fyfyrwyr ysgol uwchradd yn canfod eu gwir deimladau trwy gerddoriaeth mewn byd arallfydol o’r enw “SEKAI” gyda chymorth Hatsune Miku.
Cerddor ysgol uwchradd yw Ichika â’r gallu i gael mynediad i “SEKAI,” lle cyfrinachol ble mae hi a’i ffrindiau yn gallu mynegi eu hemosiynau mewnol dwys trwy gyfrwng cerddoriaeth ar y cyd â Hatsune Miku. Un diwrnod ar ôl cyflwyno perfformiad byw, mae Ichika yn cwrdd â Miku newydd nad yw hi erioed wedi ei gweld o’r blaen. Waeth pa mor galed mae’r Miku newydd yma yn ceisio canu, mae’n cael trafferth cysylltu â chalonnau ei gwrandawyr. Rhaid i Miku ddibynnu ar help eraill i ddod o hyd i ffordd o ganu unwaith eto.
Yn dechrau ar amser, dim hysbysebion.
Prynwch 5, gewch un am ddim!