Event Info
Canllaw Oedran: Addas i bawb ( Dim plant o dan 7 oed )
Rhediad: 50 munud dim toriad
Mae Krapp's Last Tape yn daith trwy fywyd hen ddyn, yn llawn atgofion doniol a gobeithion am y dyfodol, wedi eu cyplysu â galaru am gariad a gollwyd ac uchelgais nas cyflawnwyd.
Mae'r cynhyrchiad hwn, wedi'i gyfarwyddo gan Stockard Channing a enwebwyd ar gyfer Gwobr Academi ac yn serennu David Westhead, yn teithio'n fyd-eang trwy gydol 2025.
Mwynhewch ddrama glasurol Samuel Beckett wrth i gynulleidfaoedd gael eu gwahodd i mewn i fyd Krapp a’i unigedd, atgofion, breuddwydion, llawenydd ac anobaith.
Mae'r cynhyrchiad teithiol hwn wedi dod yn fyw mewn ystafelloedd nas defnyddir, seleri tanddaear, cyn-garchardai a ffatrïoedd llychlyd. ‘Rydym yn cael ein cludo i wlad o lawenydd, tristwch, uchelgais coll, cariad, gwallgofrwydd a gobaith.
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.