Event Info
Noson o sgyrsiau am lyfrau a llofnodi llyfrau yw Queer Lit Quarterly a gynhelir gan Lyfrau Gayberystwyth Books gyda chefnogaeth Aberration Cymru. Dyma gyfle i gwrdd ag awduron, ymchwilwyr a chyhoeddwyr cwiar, a fydd yn darllen o'u llyfrau, yn siarad am eu cymhelliant a'r broses ysgrifennu ac yn ateb cwestiynau o’r gynulleidfa, gan ddod â’r noson i ben gyda thrafodaeth banel. Gan mai mis Chwefror yw Mis Hanes LHDTC+ ‘rydym yn rhedeg gyda thema hanesyddol!
Ein siaradwyr:
Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sydd wedi cael y dasg o ‘Gyd-greu a chyflwyno cyflwyniad cyhoeddus gydag Aberration fel rhan o ddigwyddiad Llyfrau Gayberystwyth Books, Queer Lit Quarterly. Mae'r myfyrwyr wedi bod yn gweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i greu archif ddigidol o gyfraniad Aberration i'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
Alis Hawkins The Oxford Mysteries (A Bitter Remedy, The Skeleton Army a The Hunters Club). Ffuglen hanesyddol wedi’i hymchwilio’n fanwl ac wedi’i gosod yn Rhydychen oes Fictoria.
Emily Garside Gay Aliens and Queer Folk: How Russell T Davies Changed TV (llyfrau ffeithiol, hanes diwylliannol) a Rainbow Wales: Pwy yw'r ffigurau Cwiar, yn y gorffennol a’r presennol, sydd wedi gwneud, ac sy'n parhau i wneud, hanes Cymru?
Rachel Dawson Neon Roses (ffuglen hanesyddol), wedi'i gosod yn yr 80au yn ystod cyfnod Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr, ac argyfwng AIDS ac Adran 28.
Mae Alis Hawkins yn aelod sefydlol o’r grŵp awduron trosedd Cymreig, Crime Cymru, ac yn aelod o’r Gymdeithas Awduron a’r Gymdeithas Awduron Trosedd. Mae dwy o’i phedair nofel yn y gyfres Teifi Valley Coroner wedi cyrraedd rhestr fer gwobr fawreddog Historical Dagger y Gymdeithas Awduron Trosedd. Mae hi’n byw ar ffin Cymru yn Fforest y Ddena gyda’i phartner ac yn teithio’n rheolaidd i orllewin Cymru a Rhydychen.
Yn dilyn ei llwyddiant gyda’r gyfres Teifi Valley Coroner, mae hi bellach wedi cyhoeddi tair nofel yn y gyfres The Oxford Mysteries (A Bitter Remedy, The Skeleton Army, a The Hunters Club):
The Hunters Club: Rhydychen, 1883. Mae dynion ifanc yn cael eu canfod wedi'u rhwymo, eu gagio a'u gwisgo â chwfl wrth gatiau eu colegau yn oriau mân y bore.
Mae’r uwch-broctor yn gofyn i Basil Rice, cymrawd Coleg Iesu, i ymchwilio i’r mater. Ond mae materion purdeb rhywiol yn beryglus, gan eu bod yn gadael Basil yn agored i archwilio annymunol i’w fywyd preifat ei hun.
Yn y cyfamser, mae Llys Is-Ganghellor y Brifysgol wedi carcharu siopwraig ifanc o'r dref ar gam, ac mae hi'n ceisio gwasanaethau'r academydd a newyddiadurwraig ifanc, Non Vaughan, i glirio ei henw.
Mae datgelu cymdeithas gyfrinachol, y Venatores, gan Basil, a llofruddiaeth myfyriwr, yn achosi i Non a Basil ymuno. Ond a yw cyfiawnder yn bosibl mewn byd mor anghyfiawn a pheryglus?
Dirgelwch hanesyddol disglair gan awdur A Bitter Remedy a gyrhaeddodd rhestr fer gwobr Historical Dagger y Gymdeithas Awduron Trosedd.
Mae Emily Garside yn awdur sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae ganddi PhD mewn ymatebion theatrig i’r argyfwng AIDS ac mae'n arbenigwraig flaenllaw ar theatr LHDTC+. Mae Emily yn ysgrifennu'n rheolaidd ar gyfer cylchgronau megis The Queer Review, American Theatre, a Wales Art Review. Mae hi hefyd yn defnyddio ei hymchwil a'i phrofiad byw i adrodd straeon cwiar trwy ffuglen. Mae nifer o’i dramâu wedi cael eu perfformio yn Llundain ac yn genedlaethol.
Rainbow Wales - Cyhoeddir 7fed Mai 2026, Calon
Pwy yw'r ffigurau Cwiar, yn y gorffennol a’r presennol, sydd wedi gwneud, ac sy'n parhau i wneud, hanes Cymru?
Darganfyddwch yr amrywiaeth helaeth o ffigurau LHDTC+ sy'n dylanwadu ar Gymru - a'r byd - mewn archwiliad o'r enwau cyfarwydd a'r eiconau cudd sydd wedi siapio eu meysydd ac wedi gyrru cynrychiolaeth Cwiar ymlaen.
O Jan Morris i Ivor Novello, Kenneth Williams i Callum Scott Howells, Jess Fishlock i Lauren Price, heibio Terrence Higgins, The Vivienne ac Owain Wyn Evans, mae pobl Cymru wedi rhoi marc ar led ac amrywiaeth cyflawniad Cwiar.
Mae Rainbow Wales yn daith gyffrous ac ysbrydoledig o gwmpas ffigurau o feysydd diwylliant a chwaraeon, gwleidyddiaeth ac actifiaeth, ac yn ystyriaeth lawen o dapestri cyfoethog hunaniaeth Cwiar yng Nghymru.
Gay Aliens and Queer Folk
Mae ysgrifennu Russell T Davies ar gyfer teledu yn anodd ei gategoreiddio, yn amrywio o raglenni plant, ar draws Shakespeare, dramâu hanesyddol a chomedi, i'r cyfresi nodedig sydd wedi'i wneud yn enw cyfarwydd: Queer As Folk, Doctor Who ac It's a Sin.
Mae Gay Aliens and Queer Folk yn plymio'n ddwfn i'r naratifau cwiar y mae Russell T Davies wedi'u cyflwyno i'n sgriniau, gan ystyried sut y creodd pob gwaith le newydd i alluogi straeon LHDTC+ ddod i mewn i'n hystafelloedd byw, ac yn edrych ar eu heffaith ar y bobl a welodd eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ar deledu’r brif ffrwd, yn aml am y tro cyntaf.
Gan edrych ar yrfa Russell T Davies o'i waith cynharaf hyd at ei ddychweliad hir-ddisgwyliedig i'r TARDIS ar gyfer 60fed penblwydd Doctor Who, ac yn tynnu sylw at themâu allweddol megis gwleidyddiaeth, rhyw, AIDS a rôl Cymru yn ei waith, mae Emily Garside yn datgelu sut y torrodd Davies rwystrau i lawr, gan ddangos cymeriadau hoyw yn byw eu bywydau i'r eithaf heb ymddiheuriad ac yn dathlu cymhlethdod a llawenydd hunaniaethau cwiar.
Daw Rachel Dawson o Abertawe ac mae’n byw yng Nghaerdydd. Yn 2020 enillodd Rachel Fwrsariaeth Awdur Newydd gan Literature Wales, a chafodd ei mentora gan Rebecca F. John.
Cyhoeddwyd Neon Roses, ei nofel gyntaf, gan Wasg John Murray yn 2023. Mae Neon Roses yn stori serch lesbiaidd wedi'i gosod yn erbyn cefndir yr 1980au cythryblus yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol:
Mae Eluned Hughes yn sownd. Mae'n 1984 mewn cwm yn ne Cymru: mae streic y glowyr yn difrodi ei chymuned; mae ei chwaer wedi dianc gyda heddwas Thatcheraidd; ac mae ei chariad Lloyd yn sôn o hyd am briodi. Ac os ydynt yn chwarae '99 Red Balloons' ar y radio unwaith eto, mae’n bosibl yr aiff yn wallgof.
Yna daw'r grŵp codi arian Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi'r Glowyr i lawr o Lundain, ac mae hi'n cwrdd â June, menyw benfelen gyda dannedd cam mewn siaced ledr sy’n rhy fawr iddi. Yn sydyn, nid yw Eluned yn sownd mwyach - mae’n syrthio’n rhydd ...
Mae June yn artist ac yn actifydd. Gyda June, gall Eluned ddychmygu bywyd hollol wahanol iddi hi ei hun. Ond wrth i'w theulu frwydro yn erbyn y streic, a'i pherthynas gyda'i chwaer ddirywio, a ddylai hi yn wir adael y cyfan ar ôl?
O'r Cymoedd i glybiau nos Caerdydd, Llundain a Manceinion, mae NEON ROSES yn stori cwiar ddod-i-oed gynnes, ddoniol ac ychydig yn ddigywilydd gyda thrac sain gwych o'r 80au.
Cyrhaeddodd Neon Roses y rhestr fer ar gyfer Gwobr Betty Trask a Llyfr y Flwyddyn Cymru, a’r rhestr hir ar gyfer Gwobr Polari am ysgrifennu cwiar. Mae Rachel yn gweithio ym maes cyfathrebu i gwmni theatr, yn darlithio mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran Ddysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd, ac yn Gyfarwyddwraig Anweithredol gyda Seren Books. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ail nofel sy'n archwilio tadolaeth a mamolaeth cwiar a chariad tuag at hanes.
Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG
Rhediad: I’w ddilyn
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.