Ewch at gynnwys
Event Image
Mer 22 Hyd
·
Sinema

Event Info

Canllaw Oedran: 12+ oed - mae'r sioe yn cynnwys themâu aeddfed, nad ydynt yn addas i blant ifanc.

Rhediad: 55 munud/toriad 20 munud/50 munud + Sgwrs ar ôl y sioe

1590, Nuremberg. Mae Ewrop yn gwegian ar ymyl moderniaeth ond, yng nghysgod y crocbren, mae gan y dienyddiwr Frantz Schmidt bryderon mwy uniongyrchol. Yn arteithiwr, yn grogwr ac - yn fwyaf anghyffredin - yn ddyddiadurwr trylwyr, mae Frantz yn ymgodymu â melltith deuluol sy'n ei aflonyddu bob munud. Pan mae cynorthwy-ydd newydd haerllug yn cyrraedd, mae tensiynau'n cynnau ac mae'r llwyfan yn cael ei osod ar gyfer gwrthdaro a all rwygo eu byd creulon yn ddarnau.

 Wedi’i hysbrydoli gan ddyddiadur drwg-enwog Frantz Schmidt, mae Making a Killing yn plymio i fyd enbyd pŵer, brad ac uchelgais. Gyda’i hadleisiau moel o’r byd heddiw, mae’r stori afaelgar hon yn amlygu gwirioneddau tywyll y natur ddynol mewn cymdeithas sydd ar fin newid.

Gellir trefnu Taith Gyffwrdd o amgylch y set - cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau i ddangos eich diddordeb.

Canllawiau Cynnwys: Mae'r sioe yn cynnwys rhegi, a themâu ynghylch dienyddiadau

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mercher 22 Hydref, 2025
19:30