Event Info
Canllaw Oedran / Addas i: 3+ oed
Rhediad: 60 munud ( dim toriad )
Mae ‘Milkshake! Live’ yn ôl gyda sioe newydd sbon!
Ymunwch â’ch hoff ffrindiau Milkshake! ar wyliau gyda Dora, Pip a Posey, Blue o Blues Clues, Milo, Milkshake Monkey a dau o gyflwynyddion Milkshake! ar gyfer anturiaeth unigryw!
Paciwch eich bagiau a neidiwch ar drên Milkshake! wrth i ni fynd ar wyliau llawn canu a dawnsio gyda’n gilydd! Dyma sioe deulu na ddylid ei methu!
Cynhyrchir Milkshake! Live “Ar Wyliau” gan Mark Thompson Productions Cyf mewn partneriaeth gyda Channel 5 Broadcasting. Ysgrifennwyd gan Miranda Larson, gyda chyfarwyddo creadigol a choreograffi gan Derek Moran.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.