Event Info
Marc Evans, y DU 2025, 124 munud
Toby Jones sy'n serennu yn y stori am sut y daeth mab tlawd i löwr o Gymru yn un o actorion gorau’r byd erioed. Port Talbot, 1942. Mae Richard Jenkins (Harry Lawtey) yn byw fel bachgen ysgol aflonydd, wedi'i ddal rhwng pwysau ei deulu caled eu byd a'i uchelgeisiau ei hun. Fodd bynnag daw cyfle newydd pan mae ei dalent naturiol am ddrama yn dal sylw ei athro, Philip Burton, sy’n ei gymryd dan ei adain. Yn ffynnu dan arweiniad cadarn Philip a chefnogaeth ei lletywraig garedig (Lesley Manville), daw’r byd actio o fewn cyrraedd Richard… ond mae baich ei orffennol mewn perygl o’i ddal yn ôl am byth.