Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 1 Awst
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: 6+ oed

Rhediad: I’w ddilyn

Perfformiad unwaith-mewn-oes o Serch yw'r Doctor,campwaith digri Arwel Hughes a Saunders Lewis, wedi'i berfformio gan gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, wedi'i arwain gan Gyfarwyddwr Artistig Musicfest, Iwan Davies, gyda'r unawdwyr blaenllaw Fflur Wyn, Robert Lewis, Paul Carey Jones, Steffan Lloyd Owen a Sioned Gwen Davies.

Wrth nodi 40 mlynedd ers marwolaeth Saunders Lewis, ac ym mlwyddyn ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i fro geni Arwel Hughes, dyma deyrnged addas i ddau o ffigyrau creadigol amlycaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif.

Perfformiwyd y gwaith yn gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 1960, yn union 65 mlynedd i ddydd y perfformiad hwn. Cefnogir y digwyddiad gan Gronfa Goffa Saunders Lewis.  

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 01 Awst, 2025
19:00