Event Info
Canllaw Oedran: Addas i bawb
Rhediad: 32 munud / toriad 20 munud / 30 munud + Sgwrs ar ôl y sioe
Archwiliwch fydoedd newydd trwy ddawns.
Darganfyddwch dri byd newydd sy'n ymestyn o fytholeg hynafol hyd at ffuglen- wyddonol y dyfodol. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eich cludo trwy stori, amser a gofod gyda'r bil triphlyg hwn o ddawns gyfareddol a dyluniad godidog.
Dewch i gael eich ysbrydoli gan Infinity Duet, cydweithrediad unigryw rhwng y coreograffydd Faye Tan a'r artist Cecile Johnson Soliz. Nodweddir gwisgoedd trawiadol a cherflun siglog sy’n cymryd lle canolog ar y llwyfan, ochr yn ochr â symudiad teimladwy, cynnes sy’n ystyried pwysau ac amser.
Cewch eich swyno gan Waltz Marcos Morau, sydd wedi syfrdanu cynulleidfaoedd ledled Ewrop. Mae bodau disglair, arallfydol yn symud ar draws tirwedd wen, lom gyda chywirdeb perffaith. Anturiaeth ffuglen-wyddonol ddystopaidd i mewn i anhrefn, trefn a rheolaeth, wedi’i disgrifio fel “hollol gymhellol” gan y Times.
Yn olaf, cewch eich cludo ar daith i ddarganfod Mabon gan Osian Meilir. Profwch y Mabinogion mewn goleuni newydd wrth i chi deithio trwy’r Gymru hynafol i gwrdd ag anifeiliaid hynaf y byd. Cyfunir traddodiad gyda dychymyg gwyllt yn y myth modern hwn. Plethir gwisgoedd rhyfeddol a choreograffi gwrthryfelgar gyda threftadaeth, llên gwerin a dirgelwch. Wedi'i ysbrydoli gan deyrnasoedd hudolus mytholeg Cymru ac wedi'i osod i gerddoriaeth newydd gan y delynores ddeires o Gymru, Cerys Hafana.
Canllawiau Cynnwys: Defnyddiwyd mwg
Gwybodaeth Mynediad: Mae disgrifiad sain ar gael - gofynnwch i'r Swyddfa Docynnau am orsaf glust wrth archebu.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.