Event Info
Gan Tennessee Williams
Cyfarwyddir gan Benedict Andrews
Gillian Anderson (Sex Education), Vanessa Kirby (The Crown), a Ben Foster (Lone Survivor) sy’n arwain y cast yng nghampwaith diamser Tennessee Williams, sy’n dychwelyd i sinemâu. Wrth i fyd bregus Blanche ddadfeilio, mae’n troi at ei chwaer Stella am gysur - ond mae ei dirywiad emosiynol yn dod â hi wyneb yn wyneb gyda’r Stanley Kowalski creulon, didostur. Oddi wrth y cyfarwyddwr gweledigaethol Benedict Andrews, ffilmiwyd y cynhyrchiad clodwiw hwn yn fyw yn ystod rhediad hynod lwyddiannus yn Theatr y Young Vic yn 2014.
203 munud, un egwyl.