Event Info
Drama newydd gan Suzie Miller
Rosamund Pike (Gone Girl, Saltburn) a enwebwyd ar gyfer gwobr Oscar sy’n chwarae rhan Jessica yn y ddrama nesaf hir-ddisgwyliedig oddi wrth y tîm y tu ôl i Prima Facie. Mae Jessica Parks yn Farnwraig graff yn Llys y Goron sydd ar frig ei gyrfa. Y tu ôl i'r wisg, mae hi'n arbenigwraig ar karaoke, yn wraig gariadus ac yn rhiant cefnogol. Pan mae rhywbeth yn digwydd sy’n bygwth dinistrio cydbwysedd ei bywyd yn gyfangwbl, a all hi lwyddo i gadw ei theulu’n sefydlog?Mae’r awdur Suzie Miller a’r cyfarwyddwr Justin Martin yn ailuno yn dilyn eu ffenomenon byd-eang Prima Facie, yn yr archwiliad treiddgar hwn o famolaeth fodern a gwrywdod.
120 munud, i'w gadarnhau.