Ewch at gynnwys
Event Image
Mer 29 Hyd - Iau 30 Hyd
·
Sinema

Event Info

NT Live: Mrs Warren’s Profession 

Gan Bernard Shaw.

Mae Imelda Staunton (The Crown), enillydd pum Gwobr Olivier, yn ymuno â'i merch go iawn Bessie Carter (Bridgerton) am y tro cyntaf erioed, yn chwarae mam a merch yng nghlasur moesol tanbaid Bernard Shaw. Mae Vivie Warren yn ddynes o flaen ei hamser. Mae ei mam, ar y llaw arall, ynghlwm wrth yr hen drefn batriarchaidd. Mae ecsbloetio’r drefn honno wedi ennill ffortiwn i Mrs. Warren - ond am ba gost? Wedi'i ffilmio'n fyw o'r West End, mae'r cynhyrchiad newydd hwn yn ailuno Staunton gyda'r cyfarwyddwr Dominic Cooke (Follies, Good), gan archwilio'r gwrthdaro rhwng moesoldeb ac annibyniaeth, traddodiadau a chynnydd. 

117 munud dim toriad

Dechrau ar amser – dim hysbysebion

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mercher 29 Hydref, 2025
19:45
Dydd Iau 30 Hydref, 2025
17:00